Role Overview & Responsibilities

Amdanom ni:


Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.


Y rôl:


Rydym yn chwilio am Hyfforddwr Gweinyddu Busnes proffesiynol a phrofiadol i ddarparu hyfforddiant ac asesiadau o ansawdd uchel i ddysgwyr yn y sector Gweinyddu Busnes e.e Prentisiaid Gweinyddu Busnes, Myfyrwyr Lefel 4 ac ati.


  • Amser Llawn (37 awr yr wythos)

  • Parhaol

  • Cyflog - £26,621 - £29,297

  • Llys Jiwbilî, Fforestfach (SA5 4HB)
Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu.

  • Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu yn cael eu cynllunio yn ogystal â bod yn hygyrch i ateb anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr, a bod themâu trawsbynciol (megis ADCDF, Ethos Cymreig, Sgiliau Hanfodol, Cyflogadwyedd) yn cael eu gwreiddio a’u hasesu yn effeithiol.

  • Cynllunio a chyflwyno hyd at 12 awr o hyfforddfiant yr wythnos i ddysgwyr, yn ôl yr angen.

  • Asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw cofnodion o waith a chyflawniad.
Amdanoch chi:

  • Cymhwyster Lefel 4 neu’r cyfwerth ewn Gweinyddu Busnes neu Rheoli

  • Profiad a chymhwysedd galwedigaethol i Aseswch Lefel 1- 4 neu gyfwerth.

  • Hanes o weithio ac addysgu o fewn y sector gweinyddu Busnes neu Rheoli.
Buddion:

  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig

  • Parcio am ddim

  • Cynllun gweithio Hybrid

  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg

  • Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff

  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing


Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.


Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.


Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Partner Recommendation

About Verified Employer

Verified Employer is an actively verified employer hiring talent across technology, engineering, and operations.

  • Headquarters: United States / United Kingdom
  • Company Size: 1,000+ employees
  • Trust Rating: 95 / 100 (Official Registry Audited)

View all openings at Verified Employer →